Cofnodion y pedwerydd cyfarfod o'r Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol
Dydd Mawrth 28 Ionawr 2014
Cadeirydd: Russell George AC (Sir Drefaldwyn)
Yr Aelodau a oedd yn bresennol:
Andrew R.T. Davies AC (Canol De Cymru)
Antoinette Sandbach AC (Gogledd Cymru)
Nick Ramsay AC (Mynwy)
Keith Davies AC (Llanelli)
Cynrychiolwyr:
John Davies, Cadeirydd - Pwyllgor Cynghori Ofcom yng Nghymru
Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Cymru - Ofcom
Alex Williams, Cynghorydd Materion Rheoleiddio, Cymru - Ofcom
Eitem 1: Croeso a chyflwyniad y Cadeirydd
1. Croesawodd Russell George AC, y Cadeirydd, gynrychiolwyr Ofcom i bedwerydd cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol y Cynulliad.
Eitem 2: Ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC (Aberafon); Aled Roberts AC (Gogledd Cymru); Alun Ffred Jones AC (Arfon); Bethan Jenkins AC (Gorllewin De Cymru); Simon Thomas AC (Canolbarth a Gorllewin Cymru); a David Melding AC (Canol De Cymru).
Eitem 3: Cofnodion y trydydd Cyfarfod o'r Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol
3. Adolygwyd a chymeradwywyd cofnodion trydydd cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol fel cofnod cywir o'r trafodion.
Eitem 4: Materion yn codi
4. Adolygwyd y camau i’w cymryd a chodwyd y materion canlynol:-
5. Gwasanaeth Crwydro Gorfodol ar Ffonau Symudol: Mae'r Grŵp Trawsbleidiol wedi gofyn i Ofcom orfodi gweithredwyr i ddarparu system crwydro ar ffonau symudol ar gyfer mannau gwan o ran cael signal, neu fannau heb signal, sy'n dal i fodoli ar ôl rhoi'r Prosiect Seilwaith Ffonau Symudol ar waith. CAM I'W GYMRYD - Ofcom Cymru i gyflwyno ymateb
6. Rhoi'r Prosiect Seilwaith Ffonau Symudol ar Waith: cafodd pob Aelod Cynulliad a oedd yno i glywed cyflwyniad Arqiva, a'r rhai a ymddiheurodd yn ffurfiol, fanylion y cynllun gweithredu nominal.
7. Cynllun Cymorth Ffonau Symudol Llywodraeth Cymru: Ysgrifennodd y Grŵp Trawsbleidiol at Edwina Hart AC, Gweinidog Menter, Busnes, Technoleg a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, i annog Llywodraeth Cymru i ystyried “Cynllun Cymorth Ffonau Symudol” i gynorthwyo’r ardaloedd hynny nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Prosiect Seilwaith Ffonau Symudol. CAM I'W GYMRYD - yn aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru
Eitem 5: Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
8. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Ysgrifennydd (Alex Williams) wahodd enwebiadau ar gyfer rôl Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol.
9. Nododd Russell George AC ei barodrwydd i gael ei ailethol yn Gadeirydd, a chan nad oedd unrhyw enwebiadau eraill fe'i etholwyd yn Gadeirydd ar Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol ar Gyfathrebu Digidol.
10. Gwahoddodd y Cadeirydd y rheiny yr hoffent gyflawni swyddogaethau ysgrifenyddol y grŵp i fynegi hynny. Nododd Ofcom ei fod yn barod i wneud hynny a chan nad oedd unrhyw enwebiadau eraill, cadarnhawyd mai Ofcom fyddai'n ymgymryd â swyddogaethau ysgrifenyddol y grŵp.
11. Yn ogystal, cynigiodd y Cadeirydd y dylid cadarnhau'r tri Aelod Cynulliad sy'n noddwyr y grŵp sef, David Rees AC (Llafur); Alun Ffred Jones AC (Plaid Cymru) ac Aled Roberts AC (Democratiaid Rhyddfrydol) yn is-gadeiryddion y grŵp. Cadarnhawyd y cynnig hwnnw gan yr Aelodau a oedd yn bresennol.
Eitem 6: Cyflwyniad gan Ofcom ynghylch dyfodol radio yng Nghymru
12. Rhoddodd Rhodri Williams (Cyfarwyddwr Cymru - Ofcom) gyflwyniad ar radio yng Nghymru a amlygodd bwysigrwydd radio i fywydau pobl; sut mae radio'n cael ei ddarlledu (AM, FM, DAB); y mathau gwahanol o orsafoedd radio sydd ar gael yng Nghymru (BBC, Lleol Fasnachol, Cymunedol); ac ystadegau ar ddosbarthiad y gwrandawyr, cyn mynd ymlaen i drafod manteision posibl radio digidol a'r rhagolygon o ran uwchraddio radio digidol.
13. Holodd Aelod ynghylch yr amserlen o ran lansio Radio Beca, un o'r pedair gorsaf radio cymunedol y rhoddodd Ofcom drwydded iddynt yn 2012. Cafwyd cadarnhad mai'r gobaith oedd y byddai Radio Beca yn darlledu yn hwyrach eleni.
14. Yn ogystal, cafwyd trafodaeth ynghylch cynaliadwyedd y sector radio cymunedol yn y dyfodol, wedi i Gronfa Radio Cymunedol Llywodraeth Cymru ddod i ben. Cyfeiriodd Rhodri Williams at ymgynghoriad buan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a fydd yn cynnwys cynigion i newid y fframwaith rheoleiddio y mae gorsafoedd cymunedol yn gweithredu ynddynt. Bydd y cynigion yn cynnwys rhai’n ymwneud ag ymlacio'r rheolau i alluogi gorsafoedd radio cymunedol i godi refeniw drwy hysbysebion a noddwyr. CAM I'W GYMRYD - y grŵp i ymateb i'r ymgynghoriad gan gefnogi'r egwyddor y dylai gorsafoedd radio cymunedol allu bod yn gynaliadwy yn ariannol drwy godi refeniw drwy hysbysebion a denu noddwyr.
15. Mynegodd y Grŵp bryder ynghylch uwchraddio radio DAB yn y dyfodol agos ar y sail bod Cymru ymysg yr ardaleodd â'r lefel isaf o ddarpariaeth DAB yn y DU; mae'r nifer sy'n ei ddefnyddio yn aros yr un fath ac nid oes llawer yn manteisio ar radio DAB.
16. Mynegodd yr Aelodau'r farn y byddai FM ac AM yng Nghymru yn hanfodol yn y dyfodol agos, yn enwedig mewn cerbydau ac i'r henoed. Roedd yr Aelodau am annog Llywodraeth y DU i ymchwilio i ffyrdd eraill o ddarlledu radio drwy ddefnyddio technoleg band eang symudol yn hytrach na mynd ar ôl DAB. CAM I'W GYMRYD - y grŵp i ysgrifennu at Ed Vaizey, un o Weinidogion Llywodraeth y DU
17. Yn ogystal, cafwyd trafodaeth fawr ynghylch cystadleuaeth yn y sector radio, gan gynnwys yr effaith y bydd y ffaith bod Global Radio wedi prynu Real Radio yn ei chael ar y sector a goruchafiaeth y BBC.
Eitem 7: Casgliadau a gweithredoedd a gynigiwyd
CAM I'W GYMRYD - y grŵp i ymateb i'r ymgynghoriad gan gefnogi'r egwyddor y dylai gorsafoedd radio cymunedol allu bod yn gynaliadwy yn ariannol drwy godi refeniw drwy hysbysebion a denu noddwyr.
CAM I'W GYMRYD - Y grŵp i ysgrifennu at Ed Vaizey, un o Weinidogion Llywodraeth y DU, yn amlinellu eu pryderon ynghylch DAB.
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf:
Dydd Mercher 26 Mawrth - 6.30pm, Ystafelloedd Cynadledda C a D, Cynnwys a Safonau Darlledu